Preswyliadau Artistiaid (gyda chefnogaeth Sefydliad Teulu Ashley)
Rydym bellach ar agor ar gyfer ceisiadau ar gyfer ein rhaglen Artistiaid Preswyl 2025. Mae yna chwe cyfle am bresywliadau o bythefnos o hyd fel rhan o’r rhaglen. Mae mwy o fanylion yma.
Dyddiad cau am geisiadau yw: Chwefror 16eg.
Enciliadau Creadigol
Mae dyddiadau ar gael nawr i archebu encil greadigol wythnos o hyd yn Llofft Nant. Mae’r arhosiadau wythnos hyn wedi’u cynllunio ar gyfer unigolion sydd eisiau amser a lle i ganolbwyntio ar eu gwaith creadigol, yn rhydd o’r tyniadau dyddiol. Mae’r enciliadau’n cynnwys llety yn Llofft Nant, bwthyn hunanarlwyo, a mynediad am ddim i stiwdio gyfagos sydd newydd ei chreu.
Ewch i’n gwefan www.bardsey.org/y-celfyddydau am rhagor o wybodaeth a am ddyddiadau sydd ar gael .
@celfenlli
Efallai bod rhai ohonoch wedi sylwi ein bod wedi lansio proffil Instagram newydd yn ddiweddar i recordio, rhannu a dathlu’r celfyddydau ar Enlli, gallwch ddilyn @celfenlli yma.