Bydd gwaith ail-doi sylweddol yn digwydd yn ystod 2025, ac rydym wedi bod yn brysur yn cael gwared ar yr hen render. Y gobaith efo’r camau cyntaf yma yw datrus y problemau lleithder difrifol yn yr adeilad. Byddwn yn rhannu mwy am y prosiect hwn yn ein Blwyddlyfr.
Os hoffech chi dderbyn copi o’n Blwyddlyfr ymunwch fel aelod o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli. Fel aelod fyddwch yn derbyn ein Blwyddlyfr sy’n llawn straeon, hanesion ac erthyglau difyr am Enlli; Cylchlythyron a chyfle i archebu llety cyn y cyhoedd.