Mae’n golygu mai dim ond angen ffenestr tywydd fach i ddod â sgaffaldwyr eu hunain draw, yn hytrach na ffenestr dywydd hirach i ddod â threlar gyda sgaffaldiau arno ar holl waith llwytho a dad lwytho sydd yng nghlwm efo hyn!
Yn ffodus cyrhaeddodd y sgaffaldwaith pan oedd gennym dîm o wirfoddolwyr efo’r Wardeniaid ar yr ynys ag felly mi gafodd y 11 tunnell ei ddad-lwytho mewn dau brynhawn. Diolch i Gareth Roberts am helpu hefyd!