Cynhaliwyd sesiynau yn Rhoshirwaun, Plas Heli a Chanolfan Nefyn. Daeth dros 200 o bobl i’r sesiynau hyn, gan gynnwys 100 o fyfyrwyr ysgol gynradd a 40 o bobl o ganolfan ddydd lleol ar gyfer unigolion ag anghenion ychwanegol.
Ym mis Chwefror eleni byddwn yn cynnal cyfres fer o weithdai creadigol ar gyfer pobl ifanc yng Ngwynedd rhwng 16-25 oed sy’n canolbwyntio ar yr Awyr Dywyll. Os ydych chi’n adnabod unrhyw un yn yr ardal sydd â diddordeb mewn ymuno â’r rhain, cysylltwch â gwenllian@enlli.org. Gyda diolch i Gyngor Gwynedd am ariannu’r gweithgareddau yma.