Neidio i'r prif gynnwys

Hafan > Straeon

Archifau hanesyddol 18.02.25

Enlli a’r Celfyddydau

Prin ydi’r llefydd yng Nghymru sy’n dal y dychymyg creadigol fel Enlli. Bu T Gwynn Jones yn syllu draw ar yr ynys ‘ym mraint y môr a’i genlli’, a bu Dilys Cadwaladr, y fenyw gyntaf i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol, yn athrawes ar blant yr ysgol fach yn y 1940au. Mae murluniau Carreg yn dyst i gyfnod mwyaf cynhyrchiol bywyd yr artist Brenda Chamberlain.

A sandy beach curves along a rocky shoreline, with grassy fields and scattered houses at the base of a hill in the background—perfect for those wishing to Ymweld âr ynys.

Prin ydi’r llefydd yng Nghymru sy’n dal y dychymyg creadigol fel Enlli. Bu T Gwynn Jones yn syllu draw ar yr ynys ‘ym mraint y môr a’i genlli’, a bu Dilys Cadwaladr, y fenyw gyntaf i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol, yn athrawes ar blant yr ysgol fach yn y 1940au. Mae murluniau Carreg yn dyst i gyfnod mwyaf cynhyrchiol bywyd yr artist Brenda Chamberlain. Yn fwy diweddar, cawn rai fel Kim Atkinson, Christine Evans, a Ben Porter yn dehongli eu perthynas â’r lle yn eu ffyrdd arbennig eu hunain, ynghyd ag artistiaid preswyl lawer a syllwyr o bell; ymwelwyr undydd ysbeidiol brwd, fel fi.

Mae eleni ugain mlynedd ers i Llio Rhydderch ryddhau’r albwm Enlli, un o gampweithiau bychain cerddoriaeth yng Nghymru y ganrif hon. Dyma ddehonglydd sy’n medru troi sain yn dirwedd, yn rhyddhau yr haenau sydd ynghudd mewn lle – bywyd gwyllt, cymuned, daeareg, ysbrydolrwydd, chwedl. Wrth drafod y gwaith yn ddiweddar, dyfynnodd linell o ‘Yr Eglwys’, cerdd gan Gwenallt:

Pan deneuo’r Ysbryd y cynfas gwelwn mai creadigaeth yw’r bydysawd. (When the Spirit stretches the canvas thin, we see that the universe is a creation.)

Man lle mae’r cynfas yn denau fu Enlli i mi erioed; lle mae ffydd ac anghrediniaeth, atgof a myth, yn chwarae mig. Gallaf hawlio fy mod wedi byw yma, ond heb allu dwyn hynny i gof. Fel sgwennwr, daeth yn rhan o’m hunaniaeth nid trwy ddewis, ond trwy ddiddordeb eraill. Tyf straeon newydd o’r rhai sydd wedi’u torri ar eu blas.

Wrth ddychwelyd mae anesmwythyd, cyn llawenydd, cyn anesmwythyd eto. Efallai fod pawb yn teimlo rhyw damaid o’r anesmwythyd hwnnw; efallai mai dyna sydd i gyfrif am y ffaith fod cymaint wedi ceisio dal Enlli ar bapur, ar gynfas, ar dâp. Lle sydd fel celwydd golau, ei du-hwnt-rwydd yn groes, rhywsut, i bopeth arall yn y byd.