Neidio i'r prif gynnwys

Pryd: 29 Awst i 5 Medi 2026

Dewch i dreulio wythnos gyda phobl o’r un anian mewn lle hudolus. Dyma gyfla arbennig i aros ag Ynys Enlli yn archwilio’r grefft hynafol o wehyddu basgedi ag i gael mwynhau bwyd llesheuol tymhorol hyfryd y Little Cooking Pot bob dydd. Bydd dechreuwyr yn dysgu holl hanfodion technegau basgedi crwn, tra gall y rhai sydd â rhywfaint o brofiad hogi eu sgiliau.

Dyma gyfle i wehyddu yn defnyddio helyg a deunyddiau naturiol eraill o’r ynys. Treuliwch y boreau’n gwehyddu a’r prynhawniau’n darganfod yr ynys a’r nosweithiau’n bwyta a rhannu gyda’ch gilydd. Datblygwch sgiliau newydd, dysgwch sut i drin a rheoli gwinllanoedd helyg a gadewch yr ynys gyda 2-3 o’ch basgedi fydd wedi’u gwneud â eich llaw eich hun ag atgofion i’w trysori.

Llety a Phrisiau

Arhoswch yn un o ffermdai rhestredig gradd 2 yr ynys , a rhannwch y gofod byw a’r gegin gyda’r grŵp. Wythnos wedi ei arlwyo yw hon. Am ragor o wybodaeth am y llety cliciwch yma.

7 lle ar gael mewn llety a rennir, 6 ystafell breifat.

Pris: £900

Beth sydd wedi ei gynnwys: Llety, Tiwtora, Deunyddiau, Bwyd

Beth sydd heb ei gynnwys: Pris y cwch

How to Book

Please email post@enlli.org to book your place(s).

“Dewch i ymuno â mi am wythnos o daith greadigol ar Ynys Enlli, gan blethu edafedd helyg, natur, cynaliadwyedd, bwyd da a bywyd ynys. Ynys Enlli yw lle dysgais i blethu basgedi yn ystod yr 11 mlynedd y bûm yn byw ac yn gweithio yno gyda fy nheulu. Mae'n teimlo fel braint gallu rhannu'r angerdd hwn ag eraill mewn lle mor arbennig.”

Jo Porter