Diolch i gefnogaeth gan AHNE Llŷn rydym wedi medru prynu systemau storio batri newydd i gefnogi dau grŵp o drigolion ar yr Ynys. Roedd y systemau oedd ganddynt cynt yn annibynadwy, yn ddrud i’w cynnal, ac yn cynnig ychydig iawn o ran pŵer i gefnogi unrhyw beth pellach na’r anghenion mwyaf sylfaenol fel wi-fi, ac oergell.
Mae’r systemau newydd yn defnyddio’r un cynhyrchiad ffotofoltäig solar ag o’r blaen, ond nawr does bron ddim o’r pŵer a gynhyrchir o belydrau’r haul yn cael ei wastraffu, gan fod gennym ddigon o gapasiti batri i’w storio ar gyfer pan fydd ei angen fwyaf. Oherwydd hyn, nid oes angen rhedeg generaduron mor aml (os o gwbl) ac nid oes angen i ni deithio o amgylch yr ynys i wefru banciau pŵer – sy’n creu’r ynys yn fwy gwydn a chynaliadwy.
Yn ogystal, roedden ni’n gallu gosod system storio batri newydd i wneud ein darpariad wifi i drigolion yn sylweddol fwy dibynadwy, yn enwedig drwy gydol y misoedd hir, tywyll o’r gaeaf. Mae’r ddarpariaeth wifi caeedig hon (ar gyfer trigolion, gwirfoddolwyr ac achosion brys) wedi’i sefydlu diolch i waith gwirfoddoli Paul Sandham, gyda llwyth o gymorth gan Connor Stansfield a Steve Stansfield. Cafodd y system yma diweddariad o gronfa storio batri hefyd gefnogaeth gan Dr Noel Bristow, arbenigwr yn dechnolegau adnewyddadwy. Ar draws yr ynys mae ein systemau ynni adnewyddadwy bychain yn ganlyniad i flynyddoedd o brofi a newidiadau gofalus gan wirfoddolwyr fel Mark Crane. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn gyfle gwych i addasu ac adeiladu ar waith y gwirfoddolwyr, tra hefyd yn cynnig gwelliannau sylweddol i drigolion a gwirfoddolwyr drwy systemau ynni dibynadwy sy’n golygu’r newidiadau pwysig dydd i ddydd fel y gallu i redeg rhewgell drydanol a thrydanai batri.
Ni fyddai’r gwaith yma wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Gronfa ANHE Llŷn a’n gwirfoddolwyr gwych. Rydym ni hefyd yn ddiolchgar i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am ariannu rôl Owen Rickards fel Rheolwr Cadwraeth Adeiladau, gydag Owen yn arwain ar ddylunio a gosod y gwaith hwn a chydlynu gyda’n gwirfoddolwyr arbenigol.
Mae’r gwelliannau a’r gwahaniaeth eisoes yn cael effaith gadarnhaol i fywyd dydd i ddydd trigolion Enlli.