Lle gwell i dystio ehangder awyr dywyll y nos ond yn ein Noddfa Awyr Dywyll?
Am y tro gyntaf, gwahoddwyd merched sydd â diddordeb mawr mewn astroffotograffiaeth i Enlli i fod yn rhan o breswyliad arbennig ym mis Ebrill, yn ystod Wythnos Awyr Dywyll Ryngwladol.
Croesawyd pawb yng Nghwrt i lwytho’r negas ac off a ni ar Benlli III ar draws y Swnt. Ar ôl dad-bacio a stwnsio, cawsom sgwrs ddifyr am Lewyrth yr Arth (aurora borealis), neu Golau’r Gogledd i’r mwyafrif, gan Hanna. Topig mawr ar feddyliau pawb ers sioeau mawr mis Mai ac Hydref blwyddyn dwythaf. Dangoswyd lluniau roedd eraill wedi tynnu o awyr dywyll Enlli hefyd fel engreifftiau o wahanol dechnegau astroffotograffiaeth. Roeddan ni gyd allan tan oriau y bore yn tynnu lluniau’r awyr dywyll a’r ‘deryn Drycin Manaw. Mi oedd pawb mewn syndod o ba mor glir oedd y sêr wrth syllu i fyny. Roedd cael gweld y Drycin Manaw yn hedfan o gwmpas ein pennau yn gweiddi yn brofiad unigryw.
Ar yr ail diwrnod wnaethon ni gerdded i lawr at y Storws a Solfach i sbio beth fedran ni weld. Roedd Hanna yn arbennigo mewn adair hefyd felly roedd siawns i ddysgu mwy am adar Enlli. Diwrnod braf iawn wedi ei wneud yn well gyda nofio yn Cafn, a’r dŵr yn glir. Gwelwyd machlud rhyfeddol unwaith eto tra’n bwyta lasagne cartref Meriel. Yn anffodus, ddoth y cymylau i fewn wrth iddi nosi felly penderfynnwyd mynd yn ôl i’r tŷ ac i ardd Plas Bach. Croesawyd yr adar Drycin Manaw i fewn yn y tywyllwch, a’r sŵn yn cynyddu bob munud. Cawsom sgwrs ar lygredd golau a pa mor bwysig ydi lleihau o ar gyfer bywyd gwyllt ac anifeiliaid fel y Drycin Manaw, wrth sbio tuag at Iwerddon, y ffynhonnell llygredd golau agosaf at Enlli.
Cawsom daith gerdded i fyny’r mynydd ar y dryddydd diwrnod lle soniwyd am hanes yr ynys. Roedd yn bosib gweld yr ynys yn ei gyfanrwydd a perimedrau’r ffermydd erstalwm. Handi iawn i roi bob dim dysgwyd yn ystod y tridiau dwythaf i gyd-destun. Hefyd, caswom sgwrs ddiddorol gan Mari Huws, y Warden, ar sut cafodd Enlli ei statws Noddfa Awyr Dywyll, a dangos yr holl waith caled aeth i fewn i’r broses ymgeisio. Roedd hyn yn atgyfnerthu pa mor bwysig ydio i ni chwarae rhan mewn lleihau llygredd golau adref hefyd!
Diolch mawr i’r ferched wnaeth ymuno, a gobeithiwn gynnal digwyddiadau tebyg! Diolch mawr hefyd i Hanna Bauley am ei wybodaeth, a teulu Tŷ Pellaf am y wleddau ffantastig dros yr arhosiad! Roedd y gwasanaethau nos gan y Caplan, Adrian Botwright hefyd yn gysur mawr i’r grŵp, ac yn cyfle gwych i greu cysylltiad rhwng ysbrydolrwydd a’r awyr dywyll. Unwaith eto, diolch i Colin am fynd a ni i weld yr holl adar rownd llethrau’r ynys ar y ffordd adref!
Cipolwg o'r arhosiad!
“Roeddwn i wrth fy modd yn dysgu am hanes yr ynys, ei chymuned, a sut mae’r awyr dywyll rhyfeddol yn rhan ohono. Boed hynny ar lefel ysbrydolrwydd, ar gyfer y bywyd gwyllt yn ogystal ag i ni sydd eisiau ei dystio!”