Sawl gwaith bob Haf, mae’r cwestiwn yn cael ei ofyn i mi, ‘ sut brofiad ydi byw yma yn y gaeaf?’ Gyda’r haul yn gynnes ar fy ngwyneb a sŵn y gwylanod yn cael ei gario ar yr awel, dwi bob amser yn ei chael hi’n anodd i ateb – oherwydd mewn gwirionedd, mae byw ar Enlli yn y gaeaf fel byw ar gyfandir hollol wahanol. Ac mae’n digwydd bob blwyddyn, mae’r tymor yn llithro heibio yn fwrlwm o bobl, gwirfoddolwyr, Sadyrnau a haul ac rydyn ni’n cael ein poeri allan, mae’n fis Tachwedd, a ni yw’r unig rai sydd ar yr ynys.mae’n fis Tachwedd, a ni yw’r unig rai sydd ar yr ynys.
Erbyn y pwynt yma yn y flwyddyn, rydym yn edrych yn ôl dros yr hyn a gyflawnwyd dros y tymor tra hefyd yn edrych ymlaen, wrth i ni ddechrau cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod. Cyfarfodydd ar gyllidebau a rhestrau o bethau i’w gwneud, dyddiau’n clymu pennau rhydd a thacluso ar ol gwaith y flwyddyn. Yn aml, rydyn ni’n teimlo’n dda ym mis Tachwedd, rydym yn falch o beth sydd wedi ei gyflawni ag mae absenoldeb pobl yn caniatáu i ni fwrw ymlaen â’n gwaith heb orfod ymateb i anghenion neb arall, a chael trefn eto yn y siediau, y buarthau a’r storfa ar ôl wyth mis o droi llawer o blatiau.
Ac yna, mae strom yn cyrraedd.
Mae’r ynys yn cael ei tharo gan wyntoedd sydd yn chwythu 100mya, mae’r llechi ar y toeau 150 mlwydd oed yn clecian a’r simneiau’n rhuo. Daw’r gwynt fel arfer ar Enlli o’r De Orllewin, sy’n golygu bod yr adeiladau a’r coed wedi caledu i’r gwynt o’r cyfeiriad hwnnw. Y mis Tachwedd eleni, daeth Storm Claudia o’r Dwyrain. Y gwynt yn casglu tu ôl i’r mynydd cyn chwythu drosodd gyda grym treisgar. Treuliasom y dydd cyfan y tu mewn, a threuliasom y rhan fwyaf o’r noson mewn cwsg torri. Y bore ar ôl y storm, cerddon ni o amgylch i asesu’r difrod, Emyr gyda phapur a phensil a minnau gyda’n merch ar fy ôl, gan dal eisiau cadw hi’n agos rhag ofn bod unrhyw lechi rhydd yn dal i hongian ar doeau wedi torri.
Cychwynnom o gwmpas ein cartref, yna’r beudai, Llofft Nant, Nant a Hendy ac yna Ty Capel. Ugain munud i mewn i’r ddwy awr a dreuliasom y diwrnod hwnnw yn asesu’r difrod, ac roedd y rhestr o bethau newydd i’w gwneud, nad oedd yn bodoli 24 awr ynghynt, eisoes yn hir iawn. Llechi adain Nant sy’n slabiau metr o hyd wedi’u plicio i ffwrdd fel croen banana, llechi wedi’u rhwygo gan adael twll yn nho Plas Bach, teils crib ar goll, landeri wedi’u chwythu i ffwrdd a gatiau wedi’u chwalu’n ddarnau. Roedd drws ffrynt un o’r tai wedi ei chwythu ar agor, rhan o ffrâm y drws wedi ei rwygo i ffwrdd ar yr un pryd.
Ni allai unrhyw döwyr ddod draw i wneud unrhyw waith atgyweirio am wythnos, ac felly fe dreulion ni ddiwrnod yn ceisio gwneud to Plas Bach i ddal dwr gan mai mwy o wynt a glaw oedd y rhagolygon am yr wythnos – a thrwy ryw wyrth, doedd dim difrod mewnol wedi ei wneud i unrhyw un o’r adeiladau, eto.
Heina ydy’r stormydd gwaethaf, y stormydd sy’n dod â’r nenfydau i lawr. Ystafelloedd yr ydym newydd eu glanhau a’u cau ar gyfer y gaeaf, wedi’u gorchuddio â modfeddi o blastr calch a llwch!
Ond mae stormydd yn rhan o fywyd yr ynys, ei rhythmau a’r realiti o warchod adeiladau sydd wedi’u hadeiladu ar ben pellaf Pen Llyn, yn wynebu dim heblaw Môr Iwerddon.
Dyma ein seithfed gaeaf fel Wardeniaid – rydym wedi profi’r tywydd gwaethaf a gweld â’n llygaid ein hunain faint o ddifrod y mae’r gwynt yn ei wneud, ond diolch i wasanaeth cychod dibynadwy Colin, a pharodrwydd a gwaith caled y Original Roofing Company, rydym yn rheoli ac yn delio â’r difrod anrhagweladwy hyn , un storm ar y tro.
Os y medrwch, cefnofwch ein gwaith heddiw! Mae pob rhodd yn mynd yn uniongyrchol tuag at ofalu am Ynys Enlli, heddiw ac i’r dyfodol. Diolch.