Mae’r tŷ hwn yn sefyll ar ei ben ei hun yng nghanol yr Ynys, gan ddarparu lleoliad heddychlon sy’n ddelfrydol ar gyfer encil. Mae mynediad drwy gae, a all fod yn cael ei feddiannu gan ddefaid neu wartheg ar adegau. Roedd yr artist a’r awdur Brenda Chamberlain yn byw yng Ngharreg Fawr yn ystod y 1950au. Mae rhai o’i murluniau a baentiwyd ar waliau’r llawr uchaf wedi’u cadw.
Un o’r tai mwyaf ar yr Ynys, yn cysgu wyth o bobl mewn 1 ystafell ddwbl, 2 ystafell sengl a 2 ystafell gefell, mae Carreg Fawr yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau, teuluoedd mawr, neu ddau deulu yn rhannu. Mae gan y tŷ stôf aml-danwydd yn y lolfa.
Mae golygfeydd gwych ar draws yr ynys ac i’r gorllewin tuag at fynyddoedd Wicklow yn Iwerddon.