Tŷ sylweddol yn sefyll ar wahân. Defnyddid Tŷ Capel yn wreiddiol fel tŷ’r gweinidog. Bu’r Parchedig John Enlli Williams a’i wraig yn byw yma yn ystod ail hanner y 19eg ganrif gan fagu pump o blant. Gall ymwelwyr sy’n aros yma wylio’r machlud yn goleuo’r croesau Celtaidd yn y fynwent cyn i’r haul ddiflannu y tu ôl i fynyddoedd Wicklow yn Iwerddon.
Mae yma ardd breifat, ac mae stôf aml-danwydd yn y lolfa.
Mae Tŷ Capel yn cysgu 8 o bobl mewn 2 ystafell ddwbl a 2 ystafell gyda 2 gwely sengl yr un.