Hafan

Tŷ Nesaf

Ddim ar gael ar gyfer tymhorau 2024 a 2025.

Yn cysgu 6

Archebwch nawr

Hen ffermdy ydy Tŷ Nesaf sydd yn gymydog i Dŷ Bach, cartref rheolwr yr ynys. Mae’r gegin a’r ystafell fwyta yn wynebu’r de gyda golygfeydd trawiadol i gyfeirad y goleudy.

Mae un ystafell wely dwbl, un sengl ac un gyda 3 wely sengl ynddo. Mae’r gegin a’r ystafell fwyta yn wynebu’r de gyda golygfeydd trawiadol i gyfeirad y goleudy. Ceir stôf aml-danwydd yn y lolfa.

Mae giât fechan bren ger yr ardd o flaen y tŷ yn arwain at lwybr drwy’r caeau i Lôn Penrallt ar yr arfordir sy’n wynebu’r gorllewin. Ar noswaith glir, gellir gweld Iwerddon o flaen y tŷ.

TREIAL LLETY BYNCWS 2026

Mae Tŷ Nesaf yn cael ei defnyddio i dreialu llety byncws yn ystod yr wythnos 11-25 Gorffennaf a 5-19 Medi 2026. Sengl dwbl a ystafelloedd i dri ar gael. I archebu cysylltwch a post@enlli.org am argaeledd. Mae prisau yr byncws yn cychwyn o £20 y person y noson, gyda ystafelloedd preifat neu wedi ei rhannu ar gael. Bydd gwesteion yn rhannu cyfleusterau gyda phobl eraill sy’n aros yn y tŷ