Hafan > Ymweld â’r ynys

Aros ar Enlli

View through a window showing a distant lighthouse near the shoreline, with grassy land and rooftops in the foreground under a clear sky—a tranquil scene on Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.

Llety Ymwelwyr

Mae’r profiad o aros yn Ynys Enlli yn unigryw ac yn arbennig iawn. Dyma gyfle i ‘droi eich cefn ar wegi’r byd’, i dreulio wythnos o dan y sêr, a chael eich amgylchynu gan fywyd gwyllt, hanes a’r elfennau.

Mae deg tŷ hunanarlwyo ar gael i’w rhentu gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli. Mae’r tai yn draddodiadol gyda chyfleusterau sylfaenol. Mae pob tŷ oddi ar y grid gyda thoiledau compost, ond mae gan bob un oergell/rhewgell fach, popty nwy a ffwrn, lampau solar, ac mae gan y mwyafrif stôf losgi coed.

Ni chaniateir gwersylla ar Ynys Enlli, felly yr unig ffordd i aros dros nos yw archebu un o’n lletai.

Sut i archebu

    • Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn cynnig amrywiaeth o lety gwyliau o fis Ebrill i fis Hydref.
    • Mae ein tai ar gael ar gyfer arhosiad wythnosol o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn. Ond, os ydych chi’n chwilio am wyliau byrrach, gallwn yn aml ddarparu cyfnod o 3 neu 4 noson, yn amodol ar beth sydd ar gael, gan gyrraedd a gadael ar ddydd Mercher
    • I archebu eich arhosiad, cwblhewch y ffurflen a bydd ein tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
    • *Mae aelodau’n cael mynediad at ddyddiadau cyn iddynt gael eu rhyddhau i’r cyhoedd – dewch yn aelod yma

 

Ymunwch â'n cylchlythyr i ddarganfod pryd mae archebion yn agor

Cwestiynau am y llety

Mae’r wythnos rhentu o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn, Ebrill i Hydref.

Mae nifer cyfyngedig o seibiannau byr ar gael, cysylltwch â ni am fanylion.

  • Mae nifer cyfyngedig o seibiannau byr ar gael, cysylltwch â ni am fanylion.
  • Mae angen blaendal o 50% i sicrhau eich archeb.
  • Mae’r taliad balans llawn yn ddyledus 12 wythnos cyn dechrau’ch arhosiad.
  • Gellir archebu drwy lenwi’r ffurflen archebu (peidiwch â gyrru negeseuon atom i archebu trwy neges destun, Whatsapp neu ar gyfryngau cymdeithasol gan nad yw’r negeseuon hyn yn cael eu monitro yn rheolaidd).

Sylwer: Mae Ynys Enlli yn fferm weithiol, gyda gwartheg a defaid yn pori yn y caeau ger tai a llwybrau troed. Ystyriwch hyn wrth archebu.