Rhybudd o Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol - Ddydd Sadwrn 16 o Fai 2026
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol Ymddiriedolaeth Ynys Enlli Cyf. ar ddydd Sadwrn 16 o Fai 2026, Plas Heli, Pwllheli, LL53 5YT, gyda’r busnes ffurfiol yn cychwyn am 10.30y.b. Yn dilyn y busnes ffurfiol, bydd sgwrs gan siaradwr gwadd, Malcolm Hastings.
Mae cyfrifon 2025 ac adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gael yma.
Mae cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2025 ar gael yma.
Rydym yn bwriadu cynnal cyfarfod hybrid i’r Aelodau gyda Microsoft Teams. Os hoffech fynychu, naill ai’n bersonol neu ar-lein, a fyddech cystal â rhoi gwybod i ni drwy ebost post@enlli.org
Bydd cyfieithu ar gael yn yr ystafell ac ar-lein.
Etholiad Cyfarwyddwyr
Rydym yn derbyn enwebiadau ar gyfer Ymddiriedolwr sydd â phrofiad helaeth o faterion ariannol a chyfrifyddu, yn ddelfrydol o fewn elusen, i’w ethol yn y CCB hwn. Os oes gennych diddordeb bod yn Ymddiriedolwr, a gyda sgiliau a phrofiad, e-bost at post@enlli.org.
Rhaid i Swyddfa’r Ymddiriedolaeth derbyn bob enwebiad, ynghyd ag enw’r cynigydd, yr eiliwr a llofnod yn nodi cymeradwyaeth gan yr unigolyn a enwebwyd erbyn dydd Gwener 3ydd Ebrill 2026.
Sylwer: Rhaid i’r rhai sy’n sefyll fel ymddiriedolwyr fod yn aelodau o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli a gofynnir iddynt ddarparu datganiad cryno dwyieithog am eu hunain a pam ei fod nhw am sefyll i fod yn ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Ynys Enlli (uchafswm 150 gair), a fydd yn cael ei ddosbarthu i aelodau’r Ymddiriedolaeth (ynghyd â’r manylion pleidleisio pe bai angen etholiad).
Mae’r ffurflen enwebu ar gael i’w lawr lwytho yma.
