Rhybudd o Gyfarfod Blynyddol Cyffredinol - Sadwrn 16 o Fai 2026
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol Ymddiriedolaeth Ynys Enlli Cyf. ar ddydd Sadwrn 16 o Fai 2026, Plas Heli, Pwllheli, LL53 5YT, gyda’r busnes ffurfiol yn cychwyn am 10.30y.b. Yn dilyn y busnes ffurfiol, bydd sgwrs gan siaradwr gwadd, Malcolm Hastings.
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a chyfrifon 2025 ar gael yma.
Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar gael yma.
Rydym yn bwriadu cynnal cyfarfod hybrid gyda’r opsiwn o fynychu wyneb i wyneb neu’n rhithiol. Os hoffech fynychu, naill ai’n bersonol neu ar-lein, a fyddech cystal â rhoi gwybod i ni drwy e-bost post@enlli.org
Bydd cyfieithu ar gael yn yr ystafell ac ar-lein.
Cyfeiriad: Plas Heli, Glan Y Don Industrial Estate, Yr Hafan, Pwllheli LL53 5YT
Etholiad Ymddiriedolwyr 2026
Mae Philip Owen yn sefyll i gael ei ail-etholiad yn 2026.
