Mae yna gannoedd o rywogaethau ar Enlli
Mae Enlli’n enwog am ei bywyd gwyllt a’r lle perffaith i weld brain coesgoch, morloi llwyd, palod ac adar drycin Manaw. Mae 332 o rywogaethau o adar wedi cael eu cofnodi ar yr ynys.
Mae Enlli yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’n safle sydd yn bwysig i fywyd gwyllt yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae yma ystod eang o ddiddordeb sydd yn cynnwys adar, gydag Enlli’n sefyll ar lwybr mudo allweddol i adar Ewrop, planhigion blodeuol prin, cennau, llysiau’r afu a mwsoglau, glaswelltir arfordirol a rhostir, lleynau clogwyni môr a bywyd gwyllt morol.
Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli fel perchennog, a Chyfoeth Naturiol Cymru fel corff cynghori’r llywodraeth ar fywyd gwyllt a chadwraeth, yn sicrhau bod bywyd gwyllt yr ynys yn cael ei amddiffyn ar gyfer y dyfodol. Mae nodweddion pwysig byd natur yr ynys yn cael eu rheoli drwy weithrediadau fferm yr ynys.
Bywyd y môr
Gwelir cytref gref o hyd at 200 o forloi llwyd yr Iwerydd ym môr creigiog yr ynys. Mae nifer fach yn magu ar Enlli bob blwyddyn.
Mae’r môr o amgylch yr ynys, gyda’i fforestydd o wymon strap, yn byrlymu gyda bywyd morol. Ym mhyllau’r creigiau mae anemonau, crancod a physgod bach i’w gweld. Yn y dyfroedd dyfnach mae bwydwyr hidlo fel sbwngau a chwistrellwyr y môr yn clustogi’r creigiau. Mae un rhywogaeth alltraeth, yr anemoni seren felen, yn fwy cyffredin ym Môr y Canoldir. Mae dolffiniaid Risso a’r llamhidydd harbwr yn cael eu gweld yn rheolaidd yn y môr o amgylch yr ynys.
Planhigion
Ar hyd yr ymylon arfordirol, mae serennyn y gwanwyn yn creu carpedi glas niwlog yn gynnar yn y gwanwyn. Yn dilyn hyn, mae clystyrau trwchus o glustog Fair a chlytiau o deim, ac yn hwyrach ymlaen mae grug y mêl a ling. Mae’r planhigion mwy prin yn cynnwys meillionen y Gorllewin a thafod-y-neidr bach. Ymhlith y mwyaf nodedig o’r planhigion mae’r cennau, mae gan Enlli amrywiaeth gyfoethog o dros 350 o rywogaethau.

Mulfran yn sychu adenydd
Sefydlwyd yn 1953
Gwylfa Adar a Maes Ynys Enlli
Saif yr ynys ar lwybr mudo gwanwyn ac hydref nifer o adar, ac mae hi’n gartref i frain coesgoch a phiod môr. Mae o’n beth cyffredin i weld crëyr glas, hebog tramor, tinwen y garn a teloriaid, yn ogystal ag adar môr fel huganod, llursod a mulfrain gwyrdd. Dros y 10 mlynedd diwethaf mae’r nifer o balod wedi bod yn cynyddu ar gefn y mynydd. Mae’r ynys yn gysylltiedig yn bennaf, fodd bynnag, â’r aderyn drycin Manaw – mae cytref nythu cryf o 27,000 o barau ar yr ynys.
Mae Gwylfa Adar a Maes Enlli wedi bod yn monitro ac yn modrwyo adar ar Enlli ers dros 70 mlynedd.
Straeon Bywyd Gwyllt

20.02.25
Enlli a’r ser uwchben
Mae hi bron ym amhosibl, dwi’n credu, i sefyll o dan awyr llawn sêr yn y nos heb ryfeddu ar yr olygfa. Mae’r ymateb yma’n un sy’n gyffredin i bawb, ac yn un nad yw’n newid wrth i ni brofi’r olygfa drawiadol dro ar ôl tro.