Neidio i'r prif gynnwys

Hafan > Straeon

Awyr Dywyll 08.04.25

Digwyddiadau Awyr Dywyll

Fel rhan o ddathlu ein statws Noddfa Awyr Dywyll ac wedi'i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, cynhaliom nifer o sesiynau planetariwm symudol ar draws Pen Llyn yn ystod yr Hydref. Roedd yr awyr dywyll yn gael ei ddangos ar nenfwd cromeny planetariwm symudol lle'r oedd pobl yn gallu dysgu am wahanol gytserau, eu henwau a'u chwedloniaeth.

A rustic wooden barn sits in darkness under a clear night sky filled with visible stars, part of the tranquil landscape cared for by Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.

Cynhaliwyd sesiynau yn Rhoshirwaun, Plas Heli a Chanolfan Nefyn. Daeth dros 200 o bobl i’r sesiynau hyn, gan gynnwys 100 o fyfyrwyr ysgol gynradd a 40 o bobl o ganolfan ddydd lleol ar gyfer unigolion ag anghenion ychwanegol.

Ym mis Chwefror eleni byddwn yn cynnal cyfres fer o weithdai creadigol ar gyfer pobl ifanc yng Ngwynedd rhwng 16-25 oed sy’n canolbwyntio ar yr Awyr Dywyll. Os ydych chi’n adnabod unrhyw un yn yr ardal sydd â diddordeb mewn ymuno â’r rhain, cysylltwch â gwenllian@enlli.org. Gyda diolch i Gyngor Gwynedd am ariannu’r gweithgareddau yma.