Galwad agored am Ymddiriedolwyr newydd
Ffurfiwyd yr Ymddiriedolaeth ym 1978, a phrynwyd yr ynys ym 1979. Byddwn felly’n dathlu hanner canrif o stiwardiaeth trwy gael strategaeth gadarn, cynllun busnes a gweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth hyd at 18 o Ymddiriedolwyr sy’n cyfarfod bum gwaith y flwyddyn, yn ogystal â nifer o bwyllgorau sy’n cefnogi ac yn galluogi gwaith yr Ymddiriedolaeth. Ar unrhyw adeg, mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn cyflogi hyd at naw o aelodau staff.
Fel elusen gofrestredig, diben gwaith yr Ymddiriedolaeth yw:
- Gwarchod bywyd gwyllt ac ecosystem fregus yr ynys er mwyn cenedlaethau’r dyfodol
- Annog pobl i ymweld â’r ynys fel lleoliad harddwch naturiol eithriadol a chyrchfan pererindod
- Ymgymryd ag astudiaethau gwyddonol a rhaglenni addysgol
- Gwarchod yr adeiladau a’r safleoedd archeolegol
- Hyrwyddo celfyddyd, iaith, treftadaeth a bywyd diwylliannol yr ynys
- Rhoi arferion amaethu newydd a chynaliadwy ar waith er budd cynefinoedd amrywiol yr ynys
Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth yw Alun Llwyd, a’r is-Gadeirydd yw Menna Jones.
Ein gobaith rŵan yw ehangu ein Bwrdd trwy recriwtio aelodau newydd.
Bydd y broses hon yn cyd-ddigwydd â lansiad strategaeth hirdymor newydd yr Ymddiriedolaeth yn yr wythnosau nesaf, ac rydym felly yn chwilio am bobl sydd â sgiliau, profiad a/neu ddiddordeb yn y meysydd a ganlyn:
Adeiladau
Gallai hyn ymwneud ag unrhyw beth o brofiad adeiladu neu reoli prosiect i ddealltwriaeth o ddeddfau eiddo, cynaladwyedd adeiladau, neu reoli risg. Yn ddelfrydol, byddem yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad o reoli neu arbenigedd adeiladu/technegol mewn cymdeithas dai neu sefydliad arall yn y maes hwnnw.
Llywodraeth Leol a Chenedlaethol
Profiad a dealltwriaeth o Lywodraeth Leol – yn enwedig yng Ngwynedd – yn ogystal â phrofiad a dealltwriaeth o weithdrefnau’r Senedd a datblygu cymunedol.
Cyfreithiol / Adnoddau Dynol
Profiad cyfreithiol/contractau. Byddai profiad ym maes Adnoddau Dynol neu fynediad at y profiad hwnnw hefyd o fudd.
Amaethyddiaeth
Profiad o ffermio cadwraethol a/neu fudiadau/arianwyr sy’n berthnasol i feysydd amaethyddiaeth a chadwraeth.
Mae gwerthoedd a nodau craidd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn perthyn i Gymru gynhwysol trwy gyfrwng ein llywodraethiant, ein cynnwys, ein gweithredoedd a’n partneriaethau. Er mwyn rhoi’r nodau hyn ar waith ymhellach rydym yn arbennig o groesawgar i geisiadau ddaw o rannau o’r gymuned nad ydynt, yn hanesyddol, wedi eu cynrychioli’n ddigonol ar lefel Bwrdd/Cyngor: yn benodol, pobl sydd â nodedion gwarchodedig, yn enwedig menywod, pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifedig, pobl draws ac anneuaidd, a phobl Fyddar ac Anabl. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan bobl ifanc nad ydynt, o bosib, â phrofiad blaenorol o fod yn aelod o Fwrdd/Cyngor.
Rôl wirfoddol yw hon, ond telir costau teithio lle bo hynny’n berthnasol. Bydd y Cyngor yn cyfarfod wyneb yn wyneb yn ardal Gwynedd bum gwaith y flwyddyn, a cheir un Diwrnod i’r Ymddiriedolwyr ar yr ynys yn flynyddol. Cynhelir cyfarfodydd yr Ymddiriedolaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, a darperir gwasanaeth cyfieithu. Disgwyliwn y bydd Ymddiriedolwyr yn bresennol ar gyfer o leiaf tri o’r cyfarfodydd hyn, ac y byddant yn ymwneud â phapurau a chyfathrebiadau’r Ymddiriedolaeth rhwng cyfarfodydd. Penodir Ymddiriedolwyr am dymor o bedair blynedd.
Sut i wneud cais:
Os hoffech sgwrs bellach am y cyfle hwn, cysylltwch â cadeirydd@enlli.org
Er mwyn gwneud cais, e-bostiwch post@enlli.org gyda CV a llythyr yn egluro pam yr hoffech wneud cais i ddod yn un o Ymddiriedolwyr Ynys Enlli.
Dyddiad cau: 15/09/2026
