Hafan

Ymweld â'r ynys

Ymweld ag Enlli am ei bywyd gwyllt, ei diwylliant a'i threftadaeth

Mae’r profiad o aros yn Ynys Enlli yn unigryw ac yn arbennig iawn. Dyma gyfle i ‘droi eich cefn ar wegi’r byd’, i dreulio wythnos o dan y sêr, a chael eich amgylchynu gan fywyd gwyllt, hanes a’r elfennau.

Dewch am encil o’r oes ddigidol ar eich pen eich hun neu dewch am antur gyda thŷ llawn o ffrindiau a theulu. Mae wythnos ar Enlli yn sicr o roi cyfle i chi ymlacio a dod yn ôl at eich coed.

A white house with multiple chimneys sits on a grassy hillside, partially obscured by yellow-flowered bushes in the foreground, part of the serene landscapes cared for by Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.

Tŷ Nesaf a Thŷ Bach

Llety

Eisiau dod i aros ar yr ynys?

Archebwch eich gwyliau unigryw yn Enlli heddiw. Mae gennym amrywiaeth o dai rhestredig Gradd 2, llofftydd stabal a bwthyn gyda chroglofft i chi ddewis ohonynt.

A narrow stone path leads into calm, shallow water with rocks and wooden poles scattered along the shoreline, capturing the tranquil essence of life on Enlli under a clear sky at sunset.

Aros ar Enlli

Dysgwch mwy am beth i'w ddisgwyl

Mae’r tai yn ffermdai traddodiadol, llofftydd stabal neu groglofft draddodiadol Gymreig gyda chyfleusterau syml. Mae pob tŷ oddi ar y grid ond mae gan bob un oergell/rhewgell fach, popty nwy a ffwrn, lampau solar, ac mae gan y mwyafrif stôf losgi coed. Mae gan bob tŷ doiledau compost syml.

Does dim golygfeydd gwael ar Enlli ac mae gan bob tŷ ansawdd a chymeriad arbennig y byddwch chi’n syrthio mewn cariad ag ef.

Aerial view of a rocky peninsula with a lighthouse, managed by Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, surrounded by blue ocean and under a partly cloudy sky.

Ynys Enlli gan Myles Jenks

Tripiau dydd

Ymwelwch â'r ynys am y dydd

Gallwch ymweld ag Enlli ar drip dydd drwy gydol y flwyddyn o fis Ebrill i fis Hydref. Mae Colin Evans, Mordaith Llŷn, yn rhedeg gwasanaethau o Borth Meudwy pryd bynnag y mae’r tywydd yn caniatáu. Ewch i Fordaith Llŷn i drefnu ymweliad diwrnod.

Holi be ydy be - popeth y mae angen i chi ei wybod cyn ymweld

Mae man parcio ar gyfer ymwelwyr dydd ar gael ar ben uchaf y trac sy’n arwain i lawr i Borth Meudwy, mae’n tua 15 munud i cerdded i’r porth lle mae’r cwch yn gadael. Ar gyfer ymwelwyr sy’n aros, darperir gwybodaeth am barcio wrth archebu.