Hen ffermdy ydy Nant sydd drws nesaf i Hendy. Bu’r ffermdy hwn yn gartref i deulu tan ychydig wedi’ r Ail Ryfel Byd. Defnyddiwyd y bachau yn y nenfwd i hongian cig moch wedi ei halltu.
O du blaen y tŷ ceir golygfeydd godidog i gyfeiriad Iwerddon a’r tu ôl i’r tŷ mae gardd gysgodol. Mae’n agos at dŵr yr Abaty a chapel yr ynys. Mae’r tŷ yn ddrych-ddelwedd o Hendy ac yn aml bydd dau deulu, neu grŵp mawr sy’n dymuno bod yn agos at ei gilydd, yn llogi’r ddau dŷ. Mae un ystafell wely dwbl, un sengl ac un gyda 3 wely sengl ynddo. Mae’r gegin a’r ystafell fwyta yn wynebu’r de gyda golygfeydd trawiadol i gyfeirad y goleudy. Ceir stôf aml-danwydd yn y lolfa.
.