Tŷ sylweddol sydd yn cysgu 8 mewn 2 ystafell ddwbl, 2 sengl ac 1 ystafell gyda 2 wely.
Tŷ gwych ar gyfer grŵp o bobl neu deulu mawr. Mae Plas Bach yn hynnod o boblogaidd gyda teuleuoedd, wedi ei leoli yng ngannol yr ynys, dyma’r ty agosaf at y traeth. Ceir golygfeydd bendigedig tuag at Iwerddon, ac ar dalcen y tŷ roedd y goeden afal Enlli. Mae lle i ymlacio o flaen a thu ôl y tŷ yn yr ardd flodeuog.
Mae stôf aml-danwydd yn y lolfa.