Preswylfa Rhannu Sgiliau Artistiaid a Chrefftwyr
Ynys Enlli | Medi 2026
Mae Preswylfa Rhannu Sgiliau Artistiaid a Chrefftwyr yn breswylfa gydweithredol sydd wedi’i chynllunio o amgylch dysgu ar y cyd, arbrofi a chyfnewid creadigol. Drwy ddod â grŵp bach o artistiaid a chrefftwyr o wahanol ddisgyblaethau ynghyd, mae’r breswylfa’n creu lle i ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy wneud, trafod a chwarae. Yn hytrach na chanolbwyntio ar ganlyniadau unigol, mae’r breswylfa hon yn rhoi pwyslais ar broses, cyfnewid ac ymchwilio ar y cyd. Mae artistiaid yn camu dros dro y tu allan i’w ffyrdd arferol o weithio, ac yn datblygu dulliau newydd drwy gydweithio.
Sut mae’n gweithio
Bob dydd, bydd un artist o’r grŵp yn arwain sesiwn i weddill y criw. Gallai hyn fod ar ffurf:
- Gweithdy ymarferol neu arddangosiad ymarferol
- Gweithgaredd gwneud ar y cyd
- Ysgogiad neu frîff a rennir
- Sesiwn drafod dan arweiniad, yn canolbwyntio ar ddeunyddiau, proses neu ymchwil
- Arbrawf anffurfiol neu ymyrraeth chwareus
Gall sesiynau fod yn strwythuredig neu’n rhydd, ar y cyd neu’n unigol, ymarferol neu gysyniadol. Y pwyslais yw rhannu rhywbeth o’ch ymarfer. Gallai hyn fod yn dechneg rydych chi’n chwilfrydig amdani, dull rydych chi am ei brofi gydag eraill, neu gwestiwn rydych chi’n ei archwilio yn eich gwaith ar hyn o bryd.
Rhwng y sesiynau, caiff artistiaid eu hannog i fyfyrio, ymateb, a gwneud gwaith yn annibynnol neu ar y cyd, gan ganiatáu i syniadau ddatblygu’n organig dros gyfnod yr wythnos.
Ar Ynys Enlli, mae’r dull hwn wedi’i wreiddio yn rhythmau unigryw’r ynys, ei thirwedd a’r ymdeimlad o amser a rennir. Gyda llai o wrthdyniadau allanol, mae gan artistiaid y cyfle i ymgysylltu’n llawn â syniadau ei gilydd, tra’n ymateb i’r amgylchedd maen nhw’n byw ac yn gweithio ynddo.
Nid oes disgwyliadau penodol o ran canlyniadau. Rydym yn fwriadol yn cadw’r strwythur yn hyblyg ac yn ymatebol, ac rydym yn croesawu artistiaid sy’n chwilfrydig, yn hael, ac yn agored i lunio’r profiad gyda’i gilydd.
Manylion allweddol
- Dyddiadau: 5–12 Medi
- Lleoliad: Ynys Enlli, Gogledd Cymru
- Nifer yr artistiaid: 5
- Model y breswylfa: rhannu sgiliau dan arweiniad cyfoedion, un sesiwn dan arweiniad artist bob dydd
- Cefnogaeth a ddarperir:
- llety ar y cyd
- gofod stiwdio a safle gweithio
- teithio ar gwch i’r ynys ac oddi yno
- Cost: £200 yr artist
- Dyddiad cau am geisiadau: 30 Ebrill 2026
Cymhwystra:
Artistiaid a chrefftwyr o unrhyw ddisgyblaeth sy’n byw yng Nghymru Mae’r breswylfa hon yn addas i artistiaid sy’n mwynhau gweithio’n gydweithredol, rhannu syniadau’n agored, ac ymgysylltu â dysgu anffurfiol gyda chyfoedion. Nid oes angen profiad blaenorol o addysgu na chynnal gweithdai.
Manylion
Llety: Llety hunanarlwyo ar y cyd yng: Ngharreg Fawr, gyda 1 ystafell wely ddwbl, dwy ystafell dau wely, a dwy ystafell sengl.
Gofod stiwdio: Darperir gofod stiwdio penodedig ar y cyd.
Cysylltedd: Dim Wi-Fi i westeion. Mae signal 4G cyfyngedig ar gael mewn rhai rhannau o’r ynys.
Cost: Mae’n ofynnol i artistiaid gyfrannu £200 tuag at gost y breswylfa.
Mynediad: Mae preswylfeydd yn rhedeg o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn. Gall gwasanaethau cwch gael eu canslo oherwydd tywydd garw. Rhaid i artistiaid ddod â’u holl fwyd, eiddo personol a deunyddiau gyda nhw.
Amodau tywydd: Mae Ynys Enlli yn lleoliad anghysbell ac agored, a gall amodau gwaith fod yn heriol. Mae dillad addas ar gyfer pob tywydd yn hanfodol.
Iaith: Cymraeg yw iaith waith Ymddiriedolaeth Enlli a bywyd yr ynys. Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg.
Prydau bwyd: Gwahoddir pob cyfranogwr i baratoi un pryd nos i’r grŵp. Mae artistiaid yn gyfrifol am ddod â bwyd ar gyfer eu brecwast a’u cinio eu hunain. Anogir byw’n gymunedol.
Hunan-ddigonolrwydd: Mae artistiaid yn gyfrifol am eu cynhaliaeth, eu hoffer, a chostau deunyddiau.
Yswiriant: Rhaid i artistiaid drefnu unrhyw yswiriant angenrheidiol ar gyfer y breswylfa.
Sut i wneud cais
Anfonwch geisiadau at: celfenlli@gmail.com
- Cynnig byr (uchafswm 500 gair) yn amlinellu eich ymarfer creadigol a’ch profiad, a sut y byddech yn ymdrin â’r breswylfa ar Ynys Enlli.
- Enghreifftiau o waith diweddar (hyd at 5 delwedd)
Recordiadau sain hyd at 3 munud i gyd
Fideo hyd at 3 munud i gyd
Enwch bob ffeil gyda theitl y gwaith a’r cyfrwng neu’r cyd-destun. Os yw’r ffeiliau’n rhy fawr i’w hanfon drwy e-bost, rhowch ddolen i ffolder Google Drive neu Microsoft sydd ar gael yn agored.
- CV sy’n manylu ar eich ymarfer creadigol.
- Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau ar ffurf nodyn llais neu fideo.
Dyddiad cau ceisiadau: 30 Ebrill 2025
Anfonwch geisiadau at: celfenlli@gmail.com
Bydd artistiaid yn cael gwybod erbyn 15 Mai 2025.